Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 6:13-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. ac yn wir, arwydd o garedigrwydd mawr yw'r ffaith nad yw'r annuwiolion yn cael rhwydd hynt am amser hir, ond bod eu haeddiant yn dod arnynt yn ddi-oed.

14. Oherwydd yn achos y cenhedloedd eraill y mae'r Arglwydd yn disgwyl yn amyneddgar nes i'w pechodau gyrraedd eu penllanw, ac wedyn y mae'n eu cosbi; ond nid felly y barnodd yn ein hachos ni,

15. rhag iddo ddial arnom ar ôl i'n pechodau gyrraedd eu hanterth.

16. Gan hynny, nid yw byth yn troi ei drugaredd oddi wrthym, ac wrth ddisgyblu ei bobl trwy drallod nid yw'n cefnu arnynt. Ond dylai hyn o eiriau gennyf fod yn ddigon i'ch atgoffa o hynny;

17. wedi'r ychydig grwydro hwn rhaid ailgydio yn yr hanes.

18. Yr oedd Eleasar yn un o'r ysgrifenyddion blaenllaw, yn ddyn oedd eisoes wedi cyrraedd oedran mawr, ac yn hardd iawn o ran pryd a gwedd. A dyma lle'r oedd yn cael ei orfodi i agor ei geg led ei ben ac i fwyta cig moch.

19. Ond dewisach ganddo ef oedd marw'n anrhydeddus na byw'n halogedig, a dechreuodd o'i wirfodd gerdded tuag at yr ystanc

20. gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.

21. Yr oedd y dynion oedd yn goruchwylio'r pryd anghyfreithlon hwn yn hen gyfarwydd ag Eleasar, ac am hynny cymerasant ef o'r neilltu a'i annog i ddarparu a pharatoi ei hun gig y byddai'n rhydd iddo ei fwyta, ac i ffugio ei fod yn bwyta cig yr aberth yn unol â gorchymyn y brenin.

22. Pe gwnâi hynny, byddai'n dianc rhag angau a manteisio ar gymwynas oedd yn ddyladwy i'w hen gyfeillgarwch â hwy.

23. Ond yr oedd ei ddewis ef yn un hardd, yn deilwng o'i oedran, o urddas ei henaint, o'r penwynni a ddaeth iddo o'i lafur nodedig, o'i fuchedd lân er ei febyd, ac yn anad dim o'r gyfraith sanctaidd a sefydlwyd gan Dduw. Yn gyson â hyn atebodd ar ei union, “Anfonwch fi i Hades.

24. Oherwydd nid yw ffugio yn deilwng i rywun o'n hoedran ni. Byddai llawer o'r bobl ifainc yn tybio fod Eleasar, yn ddeg a phedwar ugain oed, wedi troi at ffordd estron o fyw,

25. a chaent eu harwain ar gyfeiliorn o'm hachos i, drwy weithred a ffugiwyd gennyf fi i ennill ysbaid byr o fywyd; a'r hyn a gawn i fyddai henaint wedi ei halogi a'i lychwino.

26. Oherwydd hyd yn oed os achubaf fi fy hun am y tro rhag dialedd dynol, ni chaf ddianc byth o ddwylo'r Hollalluog, p'run ai byw ai marw fyddaf.

27. Gan hynny, os ildiaf fy mywyd yn ddewr yn awr, fe'm dangosaf fy hun yn deilwng o'm henaint,

28. a byddaf wedi gadael i'r bobl ifainc esiampl anrhydeddus o farwolaeth ewyllysgar ac anrhydeddus dros y cyfreithiau sanctaidd a chysegredig.”

29. Gyda'r geiriau hyn aeth ar ei union tuag at yr ystanc. Yr oedd yr ewyllys da a deimlai ei warcheidwaid tuag ato ychydig ynghynt wedi troi'n ewyllys drwg, am fod y geiriau yr oedd newydd eu llefaru yn wallgofrwydd yn eu golwg hwy.

30. A phan oedd ar drengi dan yr ergydion, meddai dan riddfan yn uchel, “Y mae'r Arglwydd yn ei wybodaeth sanctaidd yn gweld fy mod, er y gallwn ddianc rhag angau, yn dioddef yn fy nghorff boenau creulon y fflangell, ond yn fy enaid yn goddef hynny'n llawen o barchedig ofn tuag ato ef.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 6