A phan oedd ar drengi dan yr ergydion, meddai dan riddfan yn uchel, “Y mae'r Arglwydd yn ei wybodaeth sanctaidd yn gweld fy mod, er y gallwn ddianc rhag angau, yn dioddef yn fy nghorff boenau creulon y fflangell, ond yn fy enaid yn goddef hynny'n llawen o barchedig ofn tuag ato ef.”