Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 4:25-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Wedi derbyn comisiwn y brenin, dychwelodd i Jerwsalem. Ni ddaeth ag unrhyw gymhwyster at yr archoffeiriadaeth gydag ef; yr oedd ei dymer yn ormesol a chreulon, a'i gynddaredd bwystfilaidd yn deilwng o farbariad.

26. Felly dyma Jason, dyn oedd wedi disodli ei frawd ei hun trwy lwgrwobrwyaeth, yntau wedi ei ddisodli yn yr un modd gan un arall, a'i yrru'n alltud i wlad Amon.

27. Ond am Menelaus, yr oedd ei afael yn y swydd, ond ni chadwodd at yr un o delerau ei addewid i'r brenin ynghylch yr arian, er i Sostratus, prif swyddog y gaer, fynnu'r taliad

28. yn rhinwedd ei gyfrifoldeb am gasglu'r symiau dyladwy. O ganlyniad, galwodd y brenin y ddau ato.

29. Gadawodd Menelaus Lysimachus, ei frawd ei hun, yn ddirprwy archoffeiriad; a dirprwy Sostratus oedd Crates, capten y Cypriaid.

30. Dyna oedd y sefyllfa pan wrthryfelodd pobl Tarsus a Malus oherwydd rhoi eu dinasoedd yn anrhegion i Antiochis, gordderch y brenin.

31. Gan hynny, aeth y brenin i ffwrdd ar frys i adfer trefn, gan adael yn ddirprwy Andronicus, un o'r uchel swyddogion.

32. Tybiodd Menelaus fod hwn yn gyfle da iddo, a lladrataodd rai o lestri aur y deml a'u rhoi'n anrheg i Andronicus; yr oedd wedi gwerthu rhai eraill i Tyrus a'r dinasoedd o amgylch.

33. Pan gafodd Onias wybodaeth sicr am y gweithredoedd hyn hefyd, fe'u cyhoeddodd ar led ar ôl cilio am seintwar i Daffne ger Antiochia.

34. O ganlyniad, aeth Menelaus yn ddirgel at Andronicus a phwyso arno i roi taw ar Onias. Aeth yntau at Onias yn hyderus y llwyddai trwy dwyll; fe'i cyfarchodd yn gyfeillgar a chynnig iddo ei law dde dan lw, a'i berswadio, er gwaethaf ei amheuon amdano, i ddod allan o'i seintwar. Ac fe'i llofruddiodd yn y fan a'r lle, heb unrhyw barch i ofynion cyfiawnder.

35. Bu'r lladd anghyfiawn hwn yn achos braw a dicter, nid yn unig ymhlith yr Iddewon ond hefyd ymhlith llawer o'r cenhedloedd eraill.

36. Pan ddychwelodd y brenin o ranbarthau Cilicia, anfonodd Iddewon y ddinas ato ynglŷn â llofruddio disynnwyr Onias, a hynny gyda chefnogaeth y Groegiaid, a oedd hefyd yn ffieiddio'r anfadwaith.

37. Trallodwyd Antiochus hyd waelod ei galon, a llanwyd ef â thosturi hyd at ddagrau wrth gofio am gallineb a sobrwydd yr ymadawedig.

38. Ar dân gan gynddaredd, fe ddihatrodd Andronicus ar unwaith o'i wisg borffor, a rhwygo'i ddillad oddi amdano. Arweiniodd ef trwy'r ddinas gyfan i'r man lle cyflawnodd ei weithred annuwiol yn erbyn Onias, ac yno fe waredodd y byd o'r llofrudd halogedig. Felly y rhoes yr Arglwydd ei gosb haeddiannol iddo.

39. Yr oedd Lysimachus, â chydsyniad Menelaus, wedi ysbeilio llawer o wrthrychau cysegredig yn y ddinas. Aeth y sôn am hyn ar led, a chasglodd y bobl ynghyd yn erbyn Lysimachus, ond nid cyn i lawer o'r llestri aur gael eu gwasgaru.

40. Gan fod y torfeydd yn ymgynhyrfu ac yn ymgynddeiriogi, arfogodd Lysimachus agos i dair mil o ddynion, a chychwynnodd gyfres o ymosodiadau gwarthus dan arweiniad rhyw Awranus, dyn yr oedd ei ffolineb lawn cymaint â'i oedran.

41. Pan welodd y bobl ymosodiad Lysimachus, cipiodd rhai ohonynt gerrig, eraill flocynnau pren, ac eraill eto y lludw oedd ar lawr yno, lond eu dwylo, a'u lluchio'n wyllt ar Lysimachus a'i wŷr.

42. Felly, gan glwyfo llawer ohonynt, a tharo eraill i lawr, gyrasant bob un ohonynt ar ffo; ac am yr ysbeiliwr ei hun, lladdasant ef gerllaw'r drysorfa.

43. A dygwyd achos yn erbyn Menelaus ynglŷn â'r digwyddiadau hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 4