Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 4:17-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oherwydd nid peth dibwys yw amharchu cyfreithiau Duw, fel y dengys y cyfnod dilynol yn amlwg.

18. Pan oedd y chwaraeon pen-pum-mlynedd yn cael eu cynnal yn Tyrus gerbron y brenin,

19. anfonodd y Jason aflan hwn negeswyr i gynrychioli Jerwsalem. Antiochiaid oeddent, yn dwyn gyda hwy dri chan drachma o arian yn gyfraniad at yr aberth i Hercules. Ond mynnodd cludwyr yr arian eu hunain beidio â'u defnyddio at aberth, am nad oedd hynny'n weddus, ond eu neilltuo at ryw ddiben arall.

20. Felly, er i'r hwn a'i hanfonodd fwriadu'r arian fel cyfraniad at yr aberth i Hercules, o achos gweithred y cludwyr fe'i neilltuwyd at adeiladu llongau rhyfel teir-res.

21. Pan anfonwyd Apolonius fab Menestheus i'r Aifft ar gyfer gorseddiad y Brenin Philometor, cafodd Antiochus wybod fod y brenin hwnnw wedi troi yn erbyn ei bolisïau, a dechreuodd ystyried ei ddiogelwch ei hun; gan hynny, aeth i Jopa ac ymlaen i Jerwsalem.

22. Cafodd dderbyniad mawreddog gan Jason a'r ddinas, a'i dderbyn i mewn â ffaglau a banllefau. Wedi hynny, gwersyllodd ei fyddin yn Phenice.

23. Tair blynedd yn ddiweddarach anfonodd Jason Menelaus, brawd y Simon y cyfeiriwyd ato uchod, i hebrwng yr arian at y brenin ac i weithredu penderfyniadau ynghylch materion o frys.

24. Cafodd Menelaus ei gymeradwyo i'r brenin, a gwenieithodd iddo â'i olwg awdurdodol; a llwyddodd i gael yr archoffeiriadaeth i'w afael ei hun trwy gynnig tri chan talent o arian yn fwy na Jason.

25. Wedi derbyn comisiwn y brenin, dychwelodd i Jerwsalem. Ni ddaeth ag unrhyw gymhwyster at yr archoffeiriadaeth gydag ef; yr oedd ei dymer yn ormesol a chreulon, a'i gynddaredd bwystfilaidd yn deilwng o farbariad.

26. Felly dyma Jason, dyn oedd wedi disodli ei frawd ei hun trwy lwgrwobrwyaeth, yntau wedi ei ddisodli yn yr un modd gan un arall, a'i yrru'n alltud i wlad Amon.

27. Ond am Menelaus, yr oedd ei afael yn y swydd, ond ni chadwodd at yr un o delerau ei addewid i'r brenin ynghylch yr arian, er i Sostratus, prif swyddog y gaer, fynnu'r taliad

28. yn rhinwedd ei gyfrifoldeb am gasglu'r symiau dyladwy. O ganlyniad, galwodd y brenin y ddau ato.

29. Gadawodd Menelaus Lysimachus, ei frawd ei hun, yn ddirprwy archoffeiriad; a dirprwy Sostratus oedd Crates, capten y Cypriaid.

30. Dyna oedd y sefyllfa pan wrthryfelodd pobl Tarsus a Malus oherwydd rhoi eu dinasoedd yn anrhegion i Antiochis, gordderch y brenin.

31. Gan hynny, aeth y brenin i ffwrdd ar frys i adfer trefn, gan adael yn ddirprwy Andronicus, un o'r uchel swyddogion.

32. Tybiodd Menelaus fod hwn yn gyfle da iddo, a lladrataodd rai o lestri aur y deml a'u rhoi'n anrheg i Andronicus; yr oedd wedi gwerthu rhai eraill i Tyrus a'r dinasoedd o amgylch.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 4