39. Yn ei awydd i wneud ei elyniaeth tuag at yr Iddewon yn amlwg, anfonodd Nicanor dros bum cant o filwyr i'w gymryd i'r ddalfa;
40. oherwydd credai y byddai trwy ei gymryd yno yn taro ergyd galed yn erbyn yr Iddewon.
41. Yr oedd y fyddin hon ar fedr cipio'r tŵr ac wrthi'n ceisio gwthio'i ffordd trwy'r porth allanol, gan alw am ffaglau i danio'r drysau. Gan ei fod wedi ei amgylchynu, trodd Rasis ei gleddyf arno'i hun;
42. fel dyn o dras, dewisach oedd ganddo farw na chwympo i ddwylo'r pechaduriaid hynny, i'w sarhau a'i ddiraddio ganddynt.
43. Ond gwyrodd ei ergyd ym mrys yr ymdrech, ac wrth i'r milwyr dorri i mewn trwy'r pyrth rhedodd y dyn anrhydeddus hwn i ben mur y tŵr a'i luchio'i hun yn ddiofn i lawr i'w canol.
44. Ond camasant hwy'n ôl yn gyflym, a gadael bwlch, a disgynnodd ef i ganol y lle gwag.
45. Ond yr oedd yn dal yn fyw, ac â'i ysbryd ar dân fe gododd ar ei draed; ac er bod ei waed yn pistyllu allan a'i glwyfau'n erchyll, fe redodd heibio i'r milwyr a sefyll ar ben craig serth.
46. Yr oedd erbyn hyn wedi colli pob diferyn o waed, ond tynnodd ei goluddion allan, a chan gydio ynddynt â'i ddwy law, lluchiodd hwy at y milwyr. Yna, gan alw ar Benarglwydd einioes ac anadl i'w hadfer yn ôl iddo eto, ymadawodd â'r fuchedd hon yn y ffordd a ddisgrifiwyd.