Yr oedd erbyn hyn wedi colli pob diferyn o waed, ond tynnodd ei goluddion allan, a chan gydio ynddynt â'i ddwy law, lluchiodd hwy at y milwyr. Yna, gan alw ar Benarglwydd einioes ac anadl i'w hadfer yn ôl iddo eto, ymadawodd â'r fuchedd hon yn y ffordd a ddisgrifiwyd.