Yn yr un modd dringodd eraill i fyny ac ymosod ar y garsiwn tra oedd sylw'r rheini ar y lleill. Rhoesant y tyrau ar dân a chynnau coelcerthi i losgi'r cablwyr yn fyw. Torrodd eraill y pyrth i lawr, a gollwng gweddill y fyddin i mewn; ac felly fe feddiannwyd y dref.