Yn seithfed—ac y mae'r rheswm hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—am y byddant yn nychu mewn siom, yn cael eu difa mewn cywilydd ac yn dihoeni mewn ofnau, pan welant ogoniant y Goruchaf; oherwydd pechu ger ei fron ef a wnaethant yn ystod eu bywyd, a cher ei fron ef hefyd y maent i gael eu barnu yn yr amserau diwethaf.