Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 8:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Jwdas am fri'r Rhufeiniaid, eu bod yn gadarn a chryf, yn ffafriol tuag at bawb a ddôi i gynghrair â hwy, ac yn addunedu eu cyfeillgarwch i bwy bynnag a ymunai â hwy.

2. Ie, cadarn a chryf oeddent. Mynegwyd iddo am eu rhyfeloedd: y gwrhydri a ddangosent ymhlith y Galiaid—iddynt eu concro a'u gorfodi i dalu treth;

3. a'r hyn a wnaethant yn Sbaen trwy feddiannu'r mwyngloddiau arian ac aur oedd yno—

4. yr oeddent, trwy eu penderfyniad a'u dyfalbarhad, wedi concro'r holl wlad, er bod y lle ymhell iawn oddi wrthynt. Felly hefyd y brenhinoedd a oedd wedi dod o eithaf y ddaear i ymosod arnynt—yr oeddent wedi eu distrywio a'u taro â dinistr enfawr. Talai'r gweddill dreth flynyddol iddynt.

5. Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, a'r rhai a gododd yn eu herbyn—distrywiasant hwythau hefyd, a'u concro.

6. Yr oedd Antiochus Fawr brenin Asia, a oedd wedi mynd i ryfela yn eu herbyn gyda chant ac ugain o eliffantod a gwŷr meirch a cherbydau a llu mawr iawn, wedi ei ddryllio ganddynt hefyd.

7. Daliasant ef yn fyw, a gorchymyn iddo ef, ac i'r sawl a deyrnasai ar ei ôl, dalu treth drom, a rhoi gwystlon,

8. ac ildio gwlad India a Media a Lydia o blith eu tiriogaethau gorau. Cymerasant y rhain oddi wrtho a'u rhoi i'r Brenin Ewmenes.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 8