yr oeddent, trwy eu penderfyniad a'u dyfalbarhad, wedi concro'r holl wlad, er bod y lle ymhell iawn oddi wrthynt. Felly hefyd y brenhinoedd a oedd wedi dod o eithaf y ddaear i ymosod arnynt—yr oeddent wedi eu distrywio a'u taro â dinistr enfawr. Talai'r gweddill dreth flynyddol iddynt.