Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 6:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Pan glywodd y brenin y geiriau hyn syfrdanwyd ef, a'i sigo gymaint nes iddo fynd a chadw i'w wely a chlafychu o'r gofid, o beidio â chael yr hyn y rhoes ei fryd arno.

9. Bu yno am ddyddiau lawer, oherwydd bod y gofid mawr yn dod yn donnau drosto o hyd ac o hyd, a barnodd ei fod ar fin marw.

10. Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgáu gan bryder.

11. A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.

12. Ond yn awr daw i'm cof y drygau a wneuthum yn Jerwsalem, sef dwyn ymaith yr holl lestri arian ac aur oedd ynddi, a gorchymyn distrywio trigolion Jwda heb achos.

13. Gwn mai ar gyfrif hynny y daeth y drygau hyn arnaf; a dyma fi'n trengi o ofid mawr mewn gwlad estron.”

14. Yna galwodd am Philip, un o'i Gyfeillion, a'i osod yn llywodraethwr ar ei holl deyrnas.

15. Rhoes iddo ei goron a'i fantell a'i fodrwy, fel y gallai hyfforddi ei fab Antiochus, a'i feithrin i fod yn frenin.

16. Felly bu farw'r Brenin Antiochus yno yn y flwyddyn 149.

17. Pan glywodd Lysias am farw'r brenin, gosododd Antiochus, y mab yr oedd wedi ei feithrin o'i fachgendod, i ddilyn ei dad ar yr orsedd, a galwodd ef Ewpator.

18. Yn y cyfamser yr oedd gwŷr y gaer yn cau i mewn ar Israel o amgylch y cysegr ac yn ceisio'u drygu ym mhob modd, ac atgyfnerthu'r Cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 6