1 Macabeaid 6:8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Pan glywodd y brenin y geiriau hyn syfrdanwyd ef, a'i sigo gymaint nes iddo fynd a chadw i'w wely a chlafychu o'r gofid, o beidio â chael yr hyn y rhoes ei fryd arno.