Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 6:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth i'r Brenin Antiochus deithio drwy daleithiau'r dwyrain clywodd fod Elymais, dians yn Persia, yn enwog am ei golud mewn arian ac aur.

2. Yr oedd ei theml yn oludog iawn, gyda'r llenni euraid, a'r llurigau, a'r arfau a adawyd ar ôl gan Alexander fab Philip, brenin Macedonia, y cyntaf i fod yn frenin ar y Groegiaid.

3. Daeth Antiochus yno, a cheisio meddiannu'r ddinas a'i hysbeilio, ond ni lwyddodd, am i'w gynllwyn ddod yn hysbys i'r dinasyddion.

4. Codasant i ryfela yn ei erbyn, a ffoes yntau ac ymadael oddi yno wedi ei siomi'n fawr, i ddychwelyd i Fabilon.

5. Daeth negesydd ato i Persia ac adrodd fod y byddinoedd a ddaethai i wlad Jwda wedi eu gyrru ar ffo.

6. Yr oedd Lysias, er iddo ymosod yn gyntaf â llu arfog cryf, wedi ei ymlid ymaith gan yr Iddewon, a hwythau wedi ymgryfhau trwy'r arfau a'r adnoddau a'r ysbail lawer a ddygasant oddi ar y byddinoedd yr oeddent wedi eu trechu.

7. Yr oeddent wedi dymchwelyd y ffieiddbeth yr oedd Antiochus wedi ei adeiladu ar yr allor yn Jerwsalem, ac wedi amgylchu'r cysegr â muriau uchel fel o'r blaen, a'r un modd Bethswra, ei ddinas ef.

8. Pan glywodd y brenin y geiriau hyn syfrdanwyd ef, a'i sigo gymaint nes iddo fynd a chadw i'w wely a chlafychu o'r gofid, o beidio â chael yr hyn y rhoes ei fryd arno.

9. Bu yno am ddyddiau lawer, oherwydd bod y gofid mawr yn dod yn donnau drosto o hyd ac o hyd, a barnodd ei fod ar fin marw.

10. Galwodd ei holl Gyfeillion a dweud wrthynt, “Y mae cwsg wedi cilio o'm llygaid, a'm calon wedi llesgáu gan bryder.

11. A dyma fi'n fy holi fy hun, ‘Beth yw'r gorthrymder hwn y deuthum iddo, a'r don fawr yr wyf ynddi yn awr?’ Oherwydd caredig oeddwn yn nydd fy awdurdod, ac annwyl gan bawb.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 6