Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 3:42-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a bod byddinoedd yn gwersyllu y tu mewn i ffiniau eu gwlad, a hwythau'n gwybod am orchmynion y brenin i ddinistrio'r genedl yn llwyr,

43. dywedasant wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ailgodi adfeilion ein pobl, ac ymladd dros ein pobl a'n cysegr.”

44. Daeth y gynulleidfa ynghyd i baratoi at ryfel ac i weddïo a deisyf am drugaredd a thosturi.

45. Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch,heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan,a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed.Estroniaid oedd yn ei chaer,a hithau'n llety i'r Cenhedloedd.Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd,a distawodd y ffliwt a'r delyn.

46. Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel.

47. Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad.

48. Agorasant sgrôl y gyfraith, i chwilio am yr hyn yr oedd y Cenhedloedd yn ei gael gan ddelwau eu duwiau.

49. Daethant â dillad yr offeiriaid hefyd, a'r blaenffrwythau a'r degymau, a chyflwyno'r Nasireaid a oedd wedi cyflawni eu haddunedau.

50. Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy?

51. Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.

52. A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.

53. Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”

54. Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.

55. Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.

56. A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 3