Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:36-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Nid yw'r un o'r trefniadau hyn i'w ddiddymu o hyn ymlaen hyd byth.

37. Yn awr, felly, gofalwch am wneud copi ohonynt i'w roi i Jonathan i'w osod mewn lle amlwg yn y mynydd sanctaidd.’ ”

38. Pan welodd y Brenin Demetrius fod y wlad wedi ymdawelu dano, ac nad oedd dim gwrthryfel yn ei erbyn, gollyngodd ymaith ei holl luoedd, pob un i'w le ei hun, ac eithrio lluoedd yr estroniaid hynny yr oedd wedi eu casglu'n filwyr cyflog o ynysoedd y Cenhedloedd. Am hynny cododd gelyniaeth tuag ato ymhlith yr holl luoedd a fu dan ei ragflaenwyr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11