Pan welodd y Brenin Demetrius fod y wlad wedi ymdawelu dano, ac nad oedd dim gwrthryfel yn ei erbyn, gollyngodd ymaith ei holl luoedd, pob un i'w le ei hun, ac eithrio lluoedd yr estroniaid hynny yr oedd wedi eu casglu'n filwyr cyflog o ynysoedd y Cenhedloedd. Am hynny cododd gelyniaeth tuag ato ymhlith yr holl luoedd a fu dan ei ragflaenwyr.