Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Cymerodd ei ferch oddi arno a'i rhoi i Demetrius. Ymddieithriodd oddi wrth Alexander, a daeth yr elyniaeth rhyngddynt yn amlwg.

13. Aeth Ptolemeus i mewn i Antiochia a gwisgo coron Asia; felly daeth i wisgo dwy goron, un yr Aifft ac un Asia.

14. Yr adeg honno yr oedd y Brenin Alexander yn Cilicia, oherwydd bod trigolion y parthau hynny mewn gwrthryfel.

15. Pan glywodd Alexander, aeth i ryfel yn erbyn Ptolemeus, a daeth yntau allan i'w gyfarfod â llu mawr, a'i yrru ar ffo.

16. Ffoes Alexander i Arabia i geisio nodded yno, ac yr oedd y Brenin Ptolemeus uwchben ei ddigon.

17. Torrodd Sabdiel yr Arabiad ben Alexander i ffwrdd, a'i anfon at Ptolemeus.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Macabeaid 11