Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yn Farw i Bechod, ond yn Fyw yng Nghrist

1. Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau?

2. Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo?

3. A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth?

4. Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd.

5. Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.

6. Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod.

7. Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8. Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd,

9. a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef.

10. Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint â'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw.

11. Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.

12. Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau.

13. Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da.

14. Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.

Caethweision Cyfiawnder

15. Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!

16. Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; p'run bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?

17. Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo.

18. Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.

19. Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn.

20. Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder.

21. Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy'n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth.

22. Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.

23. Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.