Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth.

2. Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw.

3. Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw.

4. Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.

Iachawdwriaeth i Bawb

5. Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.”

6. Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i'r nef?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i lawr—

7. “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.

8. Ond beth mae'n ei ddweud?“Y mae'r gair yn agos atat,yn dy enau ac yn dy galon.”A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:

9. “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.”

10. Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.

11. Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.”

12. Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno.

13. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”

14. Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?

15. Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.”

16. Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?”

17. Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.

18. Ond y mae'n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd, yn wir, oherwydd:“Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear,a'u geiriau hyd eithafoedd byd.”

19. Ond i ofyn peth arall, “A oedd dichon i Israel fethu deall?” Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses:“Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl,a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall.”

20. Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud:“Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio;gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf.”

21. Ond am Israel y mae'n dweud: “Ar hyd y dydd bûm yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig.”