Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cyfarchion Personol

1. Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae.

2. Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.

3. Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu,

4. deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd.

5. Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist.

6. Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan.

7. Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl â mi, ac a fu'n gydgarcharorion â mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i.

8. Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd.

9. Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus.

10. Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Aristobwlus.

11. Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl â mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o dŷ Narcisus.

12. Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, chwiorydd sy'n llafurio yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Cyfarchwch Persis, chwaer annwyl sydd wedi llafurio cymaint yn ei wasanaeth.

13. Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau.

14. Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a'r cyfeillion sydd gyda hwy.

15. Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a'i chwaer, Olympas a'r holl saint sydd gyda hwy.

16. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.

17. Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt,

18. oherwydd nid gwasanaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn.

19. Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni.

20. Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi!

21. Y mae Timotheus, fy nghydweithiwr, yn eich cyfarch, a hefyd Lwcius a Jason a Sosipater, gwŷr o'r un genedl â mi.

22. (Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.)

23. Y mae Gaius, a roes ei gartref yn llety i mi ac i'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a hefyd y brawd Cwartus.

Mawlwers

25. Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn ôl y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith,

26. ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod;

27. i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist—iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.