Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 2:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwŷr a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon.

10. Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud.

11. Ond pan ddaeth Ceffas i Antiochia, fe'i gwrthwynebais yn ei wyneb, gan ei fod yn amlwg ar fai.

12. Oherwydd, cyn i rywrai ddod yno oddi wrth Iago, byddai ef yn arfer cydfwyta gyda'r Cristionogion cenhedlig, ond wedi iddynt ddod, dechreuodd gadw'n ôl ac ymbellhau, am ei fod yn ofni plaid yr enwaediad.

13. Ymunodd yr Iddewon eraill hefyd yn ei ragrith, nes ysgubo Barnabas yntau i ragrithio gyda hwy.

14. Ond pan welais nad oeddent yn cadw at lwybr gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Ceffas yng ngŵydd pawb, “Os wyt ti, er dy fod yn Iddew, yn byw nid fel Iddew ond fel Cenedl-ddyn, pa hawl sydd gennyt ti i orfodi'r Cenhedloedd i fyw fel Iddewon?”

15. Yr ydym ni wedi'n geni yn Iddewon, nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd.

16. Ac eto fe wyddom na chaiff neb ei gyfiawnhau ond trwy ffydd yn Iesu Grist, nid trwy gadw gofynion cyfraith. Felly fe gredasom ninnau yng Nghrist Iesu er mwyn ein cyfiawnhau, nid trwy gadw gofynion cyfraith, ond trwy ffydd yng Nghrist, oherwydd ni chaiff neb meidrol ei gyfiawnhau trwy gadw gofynion cyfraith.

17. Ond os, wrth geisio cael ein cyfiawnhau yng Nghrist, cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, a yw hynny'n golygu bod Crist yn was pechod? Nac ydyw, ddim o gwbl!

18. Oherwydd os wyf yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn fy mhrofi fy hun yn droseddwr.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 2