25. Rehum, Hasabna, Maaseia,
26. Aheia, Hanan, Anan,
27. Maluch, Harim a Baana.
28. Ac am weddill y bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml, a phawb sydd wedi ymneilltuo oddi wrth bobloedd estron er mwyn cadw cyfraith Dduw, gyda'u gwragedd a'u meibion a'u merched, pob un sy'n medru deall,
29. y maent yn ymuno â'u brodyr, eu harweinwyr, i gymryd llw a gwneud adduned i fyw yn ôl cyfraith Dduw, a roddwyd trwy Moses gwas Duw, a chadw ac ufuddhau i holl orchmynion, barnau a deddfau yr ARGLWYDD ein Iôr.
30. “Ni roddwn ein merched yn wragedd i bobl y wlad na chymryd eu merched hwy yn wragedd i'n meibion.
31. Ac os daw pobl y wlad â nwyddau neu rawn o unrhyw fath i'w gwerthu ar y dydd Saboth, ni dderbyniwn ddim ganddynt ar y Saboth nac ar ddydd gŵyl. Yn y seithfed flwyddyn fe rown orffwys i'r tir, a dileu pob dyled.
32. Ac yr ydym yn ymrwymo i roi traean o sicl bob blwyddyn at waith tŷ ein Duw,
33. ar gyfer y bara gosod, y bwydoffrwm a'r poethoffrwm beunyddiol, y Sabothau, y newydd-loerau, y gwyliau arbennig, y pethau cysegredig a'r offrymau dros bechod i wneud iawn dros Israel, ac at holl waith tŷ ein Duw.
34. Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglŷn â chario coed yr offrwm i dŷ ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.