Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma enwau'r rhai sy'n rhoi eu sêl: Nehemeia y llywodraethwr, mab Hachaleia, a Sidcia,

2. Seraia, Asareia, Jeremeia,

3. Pasur, Amareia, Malcheia,

4. Hattus, Sebaneia, Maluch,

5. Harim, Meremoth, Obadeia,

6. Daniel, Ginnethon, Baruch,

7. Mesulam, Abeia, Miamin,

8. Maaseia, Bilgai, Semaia; y rhain yw'r offeiriaid.

9. Y Lefiaid: Jesua fab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel.

10. Eu brodyr: Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan,

11. Meica, Rehob, Hasabeia,

12. Saccur, Serebeia, Sebaneia,

13. Hodeia, Bani, Beninu.

14. Penaethiaid y bobl: Paros, Pahath-moab, Elam, Sattu, Bani,

15. Bunni, Asgad, Bebai,

16. Adoneia, Bigfai, Adin,

17. Ater, Hisceia, Assur,

18. Hodeia, Hasum, Besai,

19. Hariff, Anathoth, Nebai,

20. Magpias, Mesulam, Hesir,

21. Mesesabeel, Sadoc, Jadua,

22. Pelatia, Hanan, Anaia,

23. Hosea, Hananeia, Hasub,

24. Halohes, Pileha, Sobec,

25. Rehum, Hasabna, Maaseia,

26. Aheia, Hanan, Anan,

27. Maluch, Harim a Baana.

Y Datganiad

28. Ac am weddill y bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml, a phawb sydd wedi ymneilltuo oddi wrth bobloedd estron er mwyn cadw cyfraith Dduw, gyda'u gwragedd a'u meibion a'u merched, pob un sy'n medru deall,

29. y maent yn ymuno â'u brodyr, eu harweinwyr, i gymryd llw a gwneud adduned i fyw yn ôl cyfraith Dduw, a roddwyd trwy Moses gwas Duw, a chadw ac ufuddhau i holl orchmynion, barnau a deddfau yr ARGLWYDD ein Iôr.

30. “Ni roddwn ein merched yn wragedd i bobl y wlad na chymryd eu merched hwy yn wragedd i'n meibion.

31. Ac os daw pobl y wlad â nwyddau neu rawn o unrhyw fath i'w gwerthu ar y dydd Saboth, ni dderbyniwn ddim ganddynt ar y Saboth nac ar ddydd gŵyl. Yn y seithfed flwyddyn fe rown orffwys i'r tir, a dileu pob dyled.

32. Ac yr ydym yn ymrwymo i roi traean o sicl bob blwyddyn at waith tŷ ein Duw,

33. ar gyfer y bara gosod, y bwydoffrwm a'r poethoffrwm beunyddiol, y Sabothau, y newydd-loerau, y gwyliau arbennig, y pethau cysegredig a'r offrymau dros bechod i wneud iawn dros Israel, ac at holl waith tŷ ein Duw.

34. Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglŷn â chario coed yr offrwm i dŷ ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.

35. Ac yr ydym wedi trefnu i ddod â blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth pob pren ffrwythau, bob blwyddyn i dŷ'r ARGLWYDD;

36. a hefyd i roi'r cyntafanedig o'n meibion a'n hanifeiliaid a'n gwartheg a'n defaid i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.

37. Hefyd i roi i'r offeiriaid y cyntaf o'n toes, o ffrwyth pob coeden, ac o'r gwin a'r olew newydd, ar gyfer ystordai tŷ ein Duw; ac i roi i'r Lefiaid ddegwm o'n tir am mai hwy sy'n casglu'r degwm yn yr holl bentrefi lle'r ydym yn gweithio.

38. Bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid pan fyddant yn casglu'r degwm, ac fe ddaw'r Lefiaid â degfed ran y degwm i'r ystordai yn nhrysorfa tŷ ein Duw.

39. Oherwydd fe ddaw'r Israeliaid a'r Lefiaid â'r offrwm o ŷd a gwin ac olew newydd i'r ystordai, lle mae llestri'r cysegr ac offer yr offeiriaid sy'n gweini, a'r porthorion a'r cantorion. Ni fyddwn yn esgeuluso tŷ ein Duw.”