Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cariad Duw at ei Bobl Wrthryfelgar

1. “Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais,ac o'r Aifft y gelwais fy mab.

2. Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf;aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.

3. “Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,a'u cymryd erbyn eu breichiau;ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

4. Tywysais hwy â rheffynnau caredigac â rhwymau cariad;bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn,ac yn plygu atynt i'w porthi.

5. “Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,ond Asyria fydd yn frenin arnynt,am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6. Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,a difa byst eu pyrtha'u difetha am eu cynllwynion.

7. Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;er iddynt alw ar dduw goruchel,ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.

8. “Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,a'th roi ymaith, Israel?Pa fodd y'th wnaf fel Adma,a'th osod fel Seboim?Newidiodd fy meddwl ynof;enynnodd fy nhosturi hefyd.

9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid,ni ddinistriaf Effraim eto;canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,y Sanct yn dy ganol;ac ni ddof i ddinistrio.

10. “Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;

11. dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,ac fel colomen o wlad Asyria,a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.

12. Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,a thÅ· Israel â thwyll;ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,ac yn ffyddlon i'r Sanct.