Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Hosea a'r Wraig Anffyddlon

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos eto, câr wraig a gerir gan arall ac sy'n odinebwraig, fel y câr yr ARGLWYDD blant Israel er iddynt droi at dduwiau eraill a hoffi teisennau grawnwin.”

2. Felly, fe'i prynais am bymtheg darn arian, a homer a hanner o haidd.

3. Dywedais wrthi, “Aros amdanaf am ddyddiau lawer, heb buteinio na'th roi dy hun i neb; felly y gwnaf finnau i ti.”

4. Oherwydd am ddyddiau lawer yr erys plant Israel heb frenin na thywysog, heb offrwm na cholofn, heb effod na theraffim.

5. Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.