Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cyhoeddi Cosb ar Israel

1. Paid â llawenychu, Israel.Paid â gorfoleddu fel y bobloedd;canys puteiniaist a gadael dy Dduw,ceraist am dâl ar bob llawr dyrnu.

2. Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy;bydd y gwin newydd yn eu siomi.

3. Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD;ond dychwel Effraim i'r Aifft,a bwytânt beth aflan yn Asyria.

4. Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD,ac ni fodlonir ef â'u haberthau;byddant iddynt fel bara galarwyr,sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta.Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara,ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD.

5. Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6. Canys wele, ffoant rhag dinistr;bydd yr Aifft yn eu casglu,a Memffis yn eu claddu;bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,a drain fydd yn eu pebyll.

7. Daeth dyddiau cosbi,dyddiau i dalu'r pwyth,a darostyngir Israel.“Ffŵl yw'r proffwyd,gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”O achos dy ddrygioni mawrbydd dy elyniaeth yn fawr.

8. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

9. Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,fel yn nyddiau Gibea.Fe gofia Duw eu drygionia chosbi eu pechodau.

Pechod Israel a'i Ganlyniadau

10. “Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.Ond aethant i Baal-peor,a'u rhoi eu hunain i warth eilun;ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.

11. Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.

12. Pe magent blant,fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!

13. Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”

14. Dyro iddynt, ARGLWYDD—beth a roddi?Dyro iddynt groth yn erthylu,a bronnau hysbion.

15. “Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni;yno'n wir y rhois fy nghas arnynt.Oherwydd eu gweithredoedd drygionus,gyrraf hwy allan o'm tŷ.Ni charaf hwy ychwaneg;gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.

16. “Trawyd Effraim.Sychodd eu gwraidd;ni ddygant ffrwyth.Er iddynt eni plant,lladdaf anwyliaid eu crothau.”

17. Bydd fy Nuw yn eu gwrthod,am iddynt beidio â gwrando arno;byddant yn grwydriaid ymysg y cenhedloedd.