11. Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfanwrth iddynt chwilio am fara;yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwydi'w cynnal eu hunain.Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,oherwydd euthum yn ddirmyg.
12. Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?Edrychwch a gwelwch;a oes gofid fel y gofida osodwyd yn drwm arnaf,ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnafyn nydd ei lid angerddol?
13. Anfonodd dân o'r uchelder,a threiddiodd i'm hesgyrn;gosododd rwyd i'm traed,a'm troi'n ôl;gwnaeth fi yn ddiffaithac yn gystuddiol trwy'r dydd.
14. Clymwyd fy nhroseddau amdanaf;plethwyd hwy â'i law ei hun;gosododd ei iau ar fy ngwddf,ac ysigodd fy nerth;rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhaina allaf godi yn eu herbyn.
15. Diystyrodd yr Arglwyddyr holl ryfelwyr oedd ynof;galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,i ddifetha fy ngwŷr ifainc;fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwyddy forwyn, merch Jwda.
16. O achos hyn yr wyf yn wylo,ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuroac yn fy nghynnal;y mae fy mhlant wedi eu hanrheithioam fod y gelyn wedi gorchfygu.
17. Estynnodd Seion ei dwylo,ond nid oedd neb i'w chysuro;gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynionamgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;yr oedd Jerwsalem wedi myndyn ffieidd-dra yn eu mysg.
18. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,ac edrychwch ar fy nolur:aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
19. Gelwais ar fy nghariadon,ond y maent hwy wedi fy mradychu;trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.
20. Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae f'ymysgaroedd mewn poen,a'm calon wedi cyffroi,oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.
21. Gwrandewch pan wyf yn griddfan,heb neb i'm cysuro.Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,a llawenhau am iti wneud hyn;ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,a byddant hwythau fel finnau.
22. Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,a dwg gosb arnynt,fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,a'm calon yn gystuddiol.