Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Galar Jerwsalem

1. O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.

2. Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,a dagrau ar ei gruddiau;nid oes ganddi neb i'w chysuroo blith ei holl gariadon;y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,ac wedi troi'n elynion iddi.

3. Aeth Jwda i gaethglud mewn trallodac mewn gorthrwm mawr;y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,ond heb gael lle i orffwys;y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddydyng nghanol ei gofidiau.

4. Y mae ffyrdd Seion mewn galaram nad oes neb yn dod i'r gwyliau;y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,a'i hoffeiriaid yn griddfan;y mae ei merched ifainc yn drallodus,a hithau mewn chwerwder.

5. Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,a llwyddodd ei gelynion,oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arnio achos amlder ei throseddau;y mae ei phlant wedi mynd ymaithyn gaethion o flaen y gelyn.

6. Diflannodd y cyfan o'i hanrhydeddoddi wrth ferch Seion;y mae ei thywysogion fel ewigodsy'n methu cael porfa;y maent wedi ffoi, heb nerth,o flaen yr erlidwyr.

7. Yn nydd ei thrallod a'i chyniy mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorauoedd ganddi yn y dyddiau gynt.Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr,heb neb i'w chynorthwyo,edrychodd ei gwrthwynebwyr arnia chwerthin o achos ei dinistr.

8. Pechodd Jerwsalem yn erchyll;am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmyguam iddynt weld ei noethni;y mae hithau'n griddfanac yn troi draw.

9. Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad;nid ystyriodd ei thynged.Yr oedd ei chwymp yn arswydus,ac nid oedd neb i'w chysuro.Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod,oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.

10. Estynnodd y gelyn ei lawi gymryd ei holl drysorau;yn wir, gwelodd hi y cenhedloeddyn dod i'w chysegr—rhai yr oeddit ti wedi eu gwaharddyn dod i mewn i'th gynulliad!

11. Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfanwrth iddynt chwilio am fara;yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwydi'w cynnal eu hunain.Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,oherwydd euthum yn ddirmyg.

12. Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?Edrychwch a gwelwch;a oes gofid fel y gofida osodwyd yn drwm arnaf,ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnafyn nydd ei lid angerddol?

13. Anfonodd dân o'r uchelder,a threiddiodd i'm hesgyrn;gosododd rwyd i'm traed,a'm troi'n ôl;gwnaeth fi yn ddiffaithac yn gystuddiol trwy'r dydd.

14. Clymwyd fy nhroseddau amdanaf;plethwyd hwy â'i law ei hun;gosododd ei iau ar fy ngwddf,ac ysigodd fy nerth;rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhaina allaf godi yn eu herbyn.

15. Diystyrodd yr Arglwyddyr holl ryfelwyr oedd ynof;galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,i ddifetha fy ngwŷr ifainc;fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwyddy forwyn, merch Jwda.

16. O achos hyn yr wyf yn wylo,ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuroac yn fy nghynnal;y mae fy mhlant wedi eu hanrheithioam fod y gelyn wedi gorchfygu.

17. Estynnodd Seion ei dwylo,ond nid oedd neb i'w chysuro;gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynionamgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;yr oedd Jerwsalem wedi myndyn ffieidd-dra yn eu mysg.

18. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,ac edrychwch ar fy nolur:aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.

19. Gelwais ar fy nghariadon,ond y maent hwy wedi fy mradychu;trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.

20. Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae f'ymysgaroedd mewn poen,a'm calon wedi cyffroi,oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.

21. Gwrandewch pan wyf yn griddfan,heb neb i'm cysuro.Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,a llawenhau am iti wneud hyn;ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,a byddant hwythau fel finnau.

22. Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,a dwg gosb arnynt,fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,a'm calon yn gystuddiol.