Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:21-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd holl dylwyth Jwda a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam fab Solomon.

22. Ond daeth gair Duw at Semaia, gŵr Duw:

23. “Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl bobl Jwda a Benjamin a phawb arall,

24. ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.’ ” A gwrandawsant ar air yr ARGLWYDD, a dychwelyd adref yn ôl gair yr ARGLWYDD.

25. Adeiladodd Jeroboam Sichem ym mynydd-dir Effraim i fyw yno, ond wedyn gadawodd y fan ac adeiladu Penuel.

26. Meddyliodd Jeroboam, “Yn awr, efallai y dychwel y frenhiniaeth at linach Dafydd.

27. Os â'r bobl hyn i offrymu yn nhŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna fe fydd calon y bobl hyn yn troi'n ôl at eu meistr, Rehoboam brenin Jwda; fe'm lladdant i a dychwelyd at Rehoboam brenin Jwda.”

28. Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, “Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft.”

29. Gosodwyd un eilun i fyny ym Methel, a rhoi'r llall yn Dan.

30. Ond bu hyn yn achos pechu, oherwydd yr oedd y bobl yn mynd i addoli'r naill i Fethel a'r llall i Dan.

31. Wedi iddo godi uchelfeydd, urddodd offeiriaid o blith y bobl i gyd, heb iddynt fod yn Lefiaid.

32. Sefydlodd Jeroboam ŵyl o bererindod ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, fel yr ŵyl o bererindod oedd yn Jwda; ac yr oedd yntau yn offrymu ar yr allor. Dyna sut y gwnâi ym Methel, ac aberthu i'r lloi a luniodd; hefyd fe osododd ym Methel offeiriaid yr uchelfeydd a godwyd ganddo.

33. Fe offrymodd ar yr allor a wnaeth ym Methel ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis. Dyfeisiodd ddyddiad iddo'i hun, lluniodd ŵyl o bererindod i'r Israeliaid ac aeth ef ei hun at yr allor i offrymu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12