Sefydlodd Jeroboam ŵyl o bererindod ar y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, fel yr ŵyl o bererindod oedd yn Jwda; ac yr oedd yntau yn offrymu ar yr allor. Dyna sut y gwnâi ym Methel, ac aberthu i'r lloi a luniodd; hefyd fe osododd ym Methel offeiriaid yr uchelfeydd a godwyd ganddo.