1 Brenhinoedd 12:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Wedi i Israel gyfan glywed fod Jeroboam wedi dychwelyd, anfonasant i'w wahodd i'r gymanfa, a'i urddo'n frenin dros Israel gyfan. Nid oedd ond llwyth Jwda'n unig yn glynu wrth linach Dafydd.