29. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno.
30. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
31. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.
32. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
33. Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.
34. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon.
35. Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish.
36. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron.
37. Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, ac yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon.
38. Yna dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir.
39. Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron.