Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ahaseia Brenin Jwda

1. Gwnaeth trigolion Jerwsalem ei fab ieuengaf Ahaseia yn frenin yn lle Jehoram, oherwydd yr oedd yr ymosodwyr a ddaeth i'r gwersyll gyda'r Arabiaid wedi lladd pob un o'r meibion hynaf. Dyna sut y daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i'r orsedd.

2. Dwy a deugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn.

3. Athaleia oedd enw ei fam, wyres Omri. Dilynodd yntau hefyd yr un llwybr â thŷ Ahab, oherwydd yr oedd ei fam yn ei arwain i wneud drwg.

4. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth tŷ Ahab; oherwydd ar ôl marw ei dad hwy oedd yn ei gynghori, er mawr niwed iddo.

5. Fe gymerodd eu cyngor hwy, ac aeth gyda Joram fab Ahab, brenin Israel, i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead.

6. Ond anafodd y Syriaid Joram a chiliodd yntau i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.

7. Penderfynodd Duw ddinistrio Ahaseia wrth iddo ymweld â Jehoram. Pan gyrhaeddodd Ahaseia, aeth allan gyda Jehoram yn erbyn Jehu fab Nimsi, a eneiniwyd gan yr ARGLWYDD i ddifodi tŷ Ahab.

8. Fel yr oedd Jehu yn cosbi tŷ Ahab, daeth o hyd i dywysogion Jwda a meibion brodyr Ahaseia, a fu'n gwasanaethu Ahaseia, ac fe'u lladdodd.

9. Yna aeth i chwilio am Ahaseia. Daliwyd Ahaseia yn cuddio yn Samaria, a chafodd ei ddwyn at Jehu a'i roi i farwolaeth. Claddwyd ef mewn bedd, oherwydd dywedasant, “Yr oedd yn ŵyr i Jehosaffat, a geisiodd yr ARGLWYDD â'i holl galon.” Felly nid oedd neb o dŷ Ahaseia yn ddigon grymus i deyrnasu.

Athaleia Brenhines Jwda

10. Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi holl linach frenhinol tŷ Jwda.

11. Ond cymerwyd Jehoas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y brenin, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd, a'i roi ef a'i famaeth mewn ystafell wely. Felly y cuddiwyd ef rhag Athaleia, fel na allai ei ladd, gan Jehoseba, merch y Brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, oherwydd yr oedd hi'n chwaer i Ahaseia.

12. A bu ynghadw gyda hwy yn nhŷ Dduw am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.