Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Offer y Deml

1. Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder.

2. Yna fe wnaeth y môr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.

3. O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.

4. Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.

5. Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau.

6. Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y môr yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi.

7. Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.

8. Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.

9. Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau â phres.

10. Gosododd y môr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tŷ.

11. Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ Dduw:

12. y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;

13. y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;

14. y deg troli; y deg noe ar y trolïau;

15. y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.

16. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.

17. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.

18. Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.

19. Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;

20. y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod;

21. y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;

22. y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.