Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Jotham Brenin Jwda

1. Pump ar hugain oed oedd Jotham pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa ferch Sadoc oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia, ar wahân i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD;

3. eto yr oedd y bobl yn dal i fyw yn llygredig. Ef a adeiladodd Borth Uchaf tŷ'r ARGLWYDD, ac atgyweirio rhan fawr o fur yr Offel.

4. Adeiladodd ddinasoedd hefyd ym mynydd-dir Jwda, a chaerau a thyrau ar y bryniau coediog.

5. Brwydrodd yn erbyn yr Ammoniaid a'u brenin, a'u trechu. Y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid iddo gan talent o arian, deng mil corus o wenith a deng mil corus o haidd; rhoesant yr un faint iddo yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

6. Ymgryfhaodd Jotham am iddo drefnu ei fywyd yn ôl ewyllys yr ARGLWYDD ei Dduw.

7. Am weddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a'i arferion, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

8. Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem.

9. Bu farw Jotham, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.