1. Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;
2. y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;
3. y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.
4. Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.
5. Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.
6. Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,
7. Noga, Neffeg, Jaffia,
8. Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.
9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.
10. Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau;
11. Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;
12. Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;
13. Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;
14. Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.
15. Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum.
16. Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.