9-11. Difethir dy elynion di,Ac yn eu cwymp fe’m llonnir i.Eneiniaist fi ag olew gwychA chodi ’nghorn fel corn yr ych.
12-13. Blodeua’r da fel palmwydd ir,Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.Yn nhÅ· yr Arglwydd maent yn byw;Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.
14-15. Parhant i ffrwytho hyd yn oedMewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,I ddweud nad oes camwri yn Nuw:Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.