Hen Destament

Salmau 73:1-5-27-28 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-5. Da yw Duw, yn sicr, i’r rhai pur o galon.Llithrais bron drwy genfigennu wrth y rhai trahausAm eu bod heb ofid, ac yn iach a bodlon –Nid fel y tlawd, mewn helynt yn barhaus.

6-9. Mae eu balchder, felly, yn gadwyn am eu gyddfau.Y mae trais yn wisg amdanynt, a’u calonnau’n ffôl.Gwawdiant a bygythiant ormes, a’u tafodau’nTramwy trwy’r wybren, a thros fryn a dôl.

10-12. Try y bobl, am hynny, atynt gan ddywedyd,“Y Goruchaf – sut y gŵyr? Beth ydyw’r ots gan Dduw?”Felly y mae’r rhai’r drwg – bob amser mewn esmwythyd,Ac yn hel cyfoeth mawr tra byddant byw.

13-15. Cwbl ofer im oedd cadw’n lân fy nghalon,Cans ni chefais ddim ond fy mhoenydio drwy y dydd;Ond pe dywedaswn, “Dyma fy nadleuon”,Buaswn wedi gwadu teulu’r ffydd.

16-20. Eto, anodd ydoedd deall hyn, nes imiFynd i gysegr Duw a gweld beth yw eu diwedd hwy.Llithrig yw eu llwybr; yn sydyn fe’u dinistri.Ciliant fel hunllef, ac nis gwelir mwy.

21-23. Mor ddiddeall oeddwn yn fy siom a’m chwerwder,Ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat ti.Ond, er hynny, yr wyf gyda thi bob amser.Yr wyt yn cydio yn fy neheulaw i.

24-26. Fe’m cynghori i, a’m derbyn mewn gogoniant.Pwy sydd gennyf yn y nef na’r ddaear ond tydi?Er i’m cnawd a’m calon fynd i lwyr ddifodiant,Duw yw fy nghryfder byth, a’m cyfran i.

27-28. Yn wir, fe ddifethir pawb sy’n bell oddi wrthyt,Ond peth da i mi yw bod yn agos at fy Nuw.Ti yw f’Arglwydd Dduw, ac fe gaf gysgod gennytI ddweud dy ryfeddodau tra bwyf byw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 73