Hen Destament

Salmau 66:1-4-8-12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Rhowch wrogaeth, yr holl ddaear,I ogoniant enw Duw,A dywedwch, “Mor ofnadwyDy weithredoedd o bob rhyw.Rwyt mor nerthol, mae d’elynionYn ymgreinio ger dy fron.Moesymgrymu iti a moliD’enw a wna’r ddaear gron”.

5-7. Dewch i weld yr holl weithredoeddMawrion a wnaeth Duw erioed:Trodd y môr yn sychdir, aethantTrwy yr afon fawr ar droed.Yno y llawenychwn ynddo,Mae’i lywodraeth byth yn gref.Ofer yw i wrthryfelwyrGodi yn ei erbyn ef!

8-12. Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd,Rhoes le inni ymhlith y byw.Ond fel coethi arian, buostYn ein profi ni, O Dduw.Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom,Sathrodd carnau meirch ein ffydd.Aethom trwy y tân a’r dyfroedd,Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 66