Hen Destament

Salmau 66:1-4-17-20 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Rhowch wrogaeth, yr holl ddaear,I ogoniant enw Duw,A dywedwch, “Mor ofnadwyDy weithredoedd o bob rhyw.Rwyt mor nerthol, mae d’elynionYn ymgreinio ger dy fron.Moesymgrymu iti a moliD’enw a wna’r ddaear gron”.

5-7. Dewch i weld yr holl weithredoeddMawrion a wnaeth Duw erioed:Trodd y môr yn sychdir, aethantTrwy yr afon fawr ar droed.Yno y llawenychwn ynddo,Mae’i lywodraeth byth yn gref.Ofer yw i wrthryfelwyrGodi yn ei erbyn ef!

8-12. Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd,Rhoes le inni ymhlith y byw.Ond fel coethi arian, buostYn ein profi ni, O Dduw.Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom,Sathrodd carnau meirch ein ffydd.Aethom trwy y tân a’r dyfroedd,Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.

13-16. Dof i’th deml â phoethoffrymau;Talaf f’addunedau i gyd,Rhai a wneuthum pan oedd pethau’nGyfyng arnaf am ryw hyd.Mi aberthaf basgedigionYn bêr arogldarth i ti.Clywch, chwi oll sy’n ofni’r Arglwydd,Beth a wnaeth fy Nuw i mi.

17-20. Gwaeddais arno; roedd ei foliantEf ar flaen fy nhafod i.Pe bai drwg o fewn fy nghalon,Ni wrandawsai arnaf fi.Ond rhoes sylw i lef fy ngweddi,Canys bythol ffyddlon yw.Am na throdd fy ngweddi oddi wrthoBendigedig fyddo Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 66