7-10. O gwrando, Israel, tystiafYn d’erbyn. Fi yw Duw.Ceryddu dy aberthauNi fedraf yn fy myw.Ond ni chymeraf fustachNa bychod geifr o’th dŷ,A minnau’n berchen popethSy’n pori ar fryniau lu.
11-14a. Mi adwaen yr ymlusgiaidA’r adar oll i gyd.Pe clemiwn, ni chaet wybod,Cans eiddof fi’r holl fyd.Cig teirw a gwaed bychod,Nid ydynt ddim i mi.Yr hyn a fynnaf gennytYw dy addoliad di.
14b-16. Am hynny, tâl, O Israel,Dy addunedau i Dduw.Os gelwi yn nydd cyfyngder,Fe’th gadwaf di yn fyw.Ond wrth bob un drygionuDywedaf: Sut wyt tiYn meiddio sôn am ddeddfauFy nglân gyfamod i?
17-21b. Rwyt yn casáu disgyblaeth,Yn bwrw ’ngeiriau o’th ôl,Yn cadw cwmni i ladronA godinebwyr ffôl;Dy dafod drwg, enllibusYn nyddu twyll mor chwim;A thybiaist ti na faliwn,Am na ddywedais ddim.
21c-23. Ystyriwch hyn yn fanwl,Chwi sy’n anghofio Duw,Rhag imi droi a’ch darnio,Heb neb i’ch cadw’n fyw.Y sawl sy’n diolch imiA dilyn ffordd y nefYw’r sawl sy’n f’anrhydeddu,Ac fe’i hachubaf ef.”