Hen Destament

Salmau 50:1-4-21c-23 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-4. Fe alwodd Duw y duwiauBreswylwyr yr holl fyd.O Seion y llewyrcha,Fe ddaw, ac ni bydd fud.Bydd tymestl fawr o’i gwmpas,O’i flaen fe ysa tân,A geilw ar nef a daearI dystio i’w eiriau glân.

5-6. Fe ddywed, “Casglwch atafFy holl ffyddloniaid i,Y rhai a wnaeth trwy aberthGyfamod gyda mi.A’r nefoedd a gyhoedda’iGyfiawnder yn gytûn,Cans nid oes barnwr arall,Dim ond ein Duw ei hun.

7-10. O gwrando, Israel, tystiafYn d’erbyn. Fi yw Duw.Ceryddu dy aberthauNi fedraf yn fy myw.Ond ni chymeraf fustachNa bychod geifr o’th dŷ,A minnau’n berchen popethSy’n pori ar fryniau lu.

11-14a. Mi adwaen yr ymlusgiaidA’r adar oll i gyd.Pe clemiwn, ni chaet wybod,Cans eiddof fi’r holl fyd.Cig teirw a gwaed bychod,Nid ydynt ddim i mi.Yr hyn a fynnaf gennytYw dy addoliad di.

14b-16. Am hynny, tâl, O Israel,Dy addunedau i Dduw.Os gelwi yn nydd cyfyngder,Fe’th gadwaf di yn fyw.Ond wrth bob un drygionuDywedaf: Sut wyt tiYn meiddio sôn am ddeddfauFy nglân gyfamod i?

17-21b. Rwyt yn casáu disgyblaeth,Yn bwrw ’ngeiriau o’th ôl,Yn cadw cwmni i ladronA godinebwyr ffôl;Dy dafod drwg, enllibusYn nyddu twyll mor chwim;A thybiaist ti na faliwn,Am na ddywedais ddim.

21c-23. Ystyriwch hyn yn fanwl,Chwi sy’n anghofio Duw,Rhag imi droi a’ch darnio,Heb neb i’ch cadw’n fyw.Y sawl sy’n diolch imiA dilyn ffordd y nefYw’r sawl sy’n f’anrhydeddu,Ac fe’i hachubaf ef.”

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 50