Hen Destament

Salmau 45:4-5-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

4-5. Marchoga o blaid beth sy’n gyfiawn a gwir;Dangosed dy nerth fod llaw Duw yn y tir.Dy saethau yng nghalon d’elynion sydd llym,Syrth pobloedd o danat yn gwbl ddi-rym.

6-7. Tragwyddol dy orsedd, fel gorsedd ein Duw,A gwialen cyfiawnder dy deyrnwialen yw.Am wrthod y drwg, rhoi cyfiawnder mewn bri,Ag olew llawenydd eneiniodd Duw di.

8-9. Myrr, aloes a chasia dy ddillad i gyd,Telynau tai ifori’n canu iti o hyd;Mae tywysogesau’n dy lys mawr ei foeth,A’th wraig wrth dy ochor mewn aur Offir coeth.

10-11. O gwrando di, ferch, a rho sylw er llesâd:Anghofia dy bobl, a chartref dy dad;A’r brenin a chwennych dy degwch yn siŵr,Oherwydd ef ydyw dy arglwydd a’th ŵr.

12-13. Ferch Tyrus, ymostwng i’r brenin â rhodd,A braint cyfoethogion fydd rhyngu dy fodd.Mor wych yw’r frenhines sy’n dyfod i’n mysg,A chwrel mewn aur yn addurno ei gwisg.

14-15. Mewn brodwaith fe’i dygir yn rhwysgfawr i’th ŵydd,A’i holl gyfeillesau’n cyflawni eu swydd,Yn dilyn o’i hôl hi yn ysgafn eu bronI balas y brenin yn hapus a llon.

16-17. Yn lle bu dy dadau daw meibion i ti,A thithau a’u gwnei’n dywysogion o fri.A minnau, mynegaf byth bythoedd dy glod:Bydd pobl yn dy ganmol tra bo’r byd yn bod.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 45