1. Symbylwyd fy nghalon gan neges sydd braf,Ac adrodd fy nghân am y brenin a wnaf,Ac y mae fy nhafod yn llithro mewn hoen,Fel pin ysgrifennydd yn llithro dros groen.
2-3. Does undyn mor deg ag wyt ti, ac mae grasYn disgyn o’th wefus; bendithiwyd dy dras.O gwisga, ryfelwr, dy gledd ar dy glun;Â mawredd gogoniant addurna dy hun.
4-5. Marchoga o blaid beth sy’n gyfiawn a gwir;Dangosed dy nerth fod llaw Duw yn y tir.Dy saethau yng nghalon d’elynion sydd llym,Syrth pobloedd o danat yn gwbl ddi-rym.