Hen Destament

Salmau 37:5-6-16-17 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5-6. Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,Rhydd ef ei gymorth iti;D’uniondeb fydd fel haul prynhawnYn loyw a llawn goleuni.

7. Bydd amyneddgar yn dy fyw,Disgwyl am Dduw yn raslon;Ac na fydd ddicllon wrth y rhaiSy’n llwyddo â’u cynllwynion.

8-9. Paid byth â digio, cans fe ddawDrwg di-ben-draw i’r llidus;Pobl Dduw a etifedda’r tir,Dinistrir y drygionus.

10-11. Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,A’i le fydd anghyfannedd,A’r gwylaidd yn meddiannu’r tirA’i ddal mewn gwir dangnefedd.

12-13. Cynllwynia’r drwg i daro’r da,Ac ysgyrnyga’i ddannedd;Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,Aflawen fydd ei ddiwedd.

14-15. Fe gais rhai drwg â’u bwa a’u cleddRoi diwedd ar rai bychain,Ond fe â’r saeth a’r cleddyf drwyEu calon hwy eu hunain.

16-17. Gwell yw’r ychydig sydd i’r doethNa chyfoeth y drygionus.Dileir y drwg, ond bydd Duw’n dalI gynnal y difeius.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 37