Hen Destament

Salmau 37:25-39-40 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

25. Yr holl flynyddoedd y bûm bywNi welais Dduw hyd ymaYn troi ei gefn ar unrhyw santNa pheri i’w blant gardota.

26-27. Hael a thrugarog ydyw’r da,A’i blant ef a fendithir.Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,A’th gartref a ddiogelir.

28-29. Oherwydd câr yr Arglwydd farn,Ni sarn ar ei ffyddloniaid;Ond torrir plant y drwg o’r tir,Difethir pechaduriaid.

30-31. Fe drig y cyfiawn yn y tirYn ddoeth a gwir ei eiriau;Mae yn ei galon ddeddf ei Dduw,A sicr yw ei gamau.

32-33. Fe wylia’r drwg y da; cais leA chyfle i’w lofruddio,Ond nid yw Duw’n ei iselhauNa chaniatáu’i gondemnio.

34. Disgwylia wrth yr Arglwydd; glŷnWrth ffordd yr Un daionus,Ac fe gei etifeddu’r tir,Ond chwelir y drygionus.

35-36. Mi welais i’r drygionus, doYn brigo fel blaguryn,Ond llwyr ddiflannodd, heb ddim sônAmdano’n fuan wedyn.

37-38. Gwêl di’r di-fai, heddychlon ŷnt,A chanddynt ddisgynyddion,Ond am y drwg, bydd Duw yn euDileu, a’u plant a’u hwyrion.

39-40. Daw oddi wrth Dduw achubiaeth lawnI’r cyfiawn mewn cyfyngder,Rhag drwg fe’u harbed am eu bodYn gosod arno’u hyder.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 37