1-2. Na chenfigenna wrth y drwg,Na gwgu ar ddihiryn,Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,Fel glesni gwych y gwanwyn.
3-4. Ymddiried yn yr Arglwydd Dduw,Gwna dda; cei fyw mewn digon.Mawrha yr Arglwydd, a chei’n rhyddDdeisyfiad cudd dy galon.
5-6. Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,Rhydd ef ei gymorth iti;D’uniondeb fydd fel haul prynhawnYn loyw a llawn goleuni.
7. Bydd amyneddgar yn dy fyw,Disgwyl am Dduw yn raslon;Ac na fydd ddicllon wrth y rhaiSy’n llwyddo â’u cynllwynion.
8-9. Paid byth â digio, cans fe ddawDrwg di-ben-draw i’r llidus;Pobl Dduw a etifedda’r tir,Dinistrir y drygionus.