Hen Destament

Salmau 37:1-2-12-13 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Na chenfigenna wrth y drwg,Na gwgu ar ddihiryn,Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,Fel glesni gwych y gwanwyn.

3-4. Ymddiried yn yr Arglwydd Dduw,Gwna dda; cei fyw mewn digon.Mawrha yr Arglwydd, a chei’n rhyddDdeisyfiad cudd dy galon.

5-6. Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,Rhydd ef ei gymorth iti;D’uniondeb fydd fel haul prynhawnYn loyw a llawn goleuni.

7. Bydd amyneddgar yn dy fyw,Disgwyl am Dduw yn raslon;Ac na fydd ddicllon wrth y rhaiSy’n llwyddo â’u cynllwynion.

8-9. Paid byth â digio, cans fe ddawDrwg di-ben-draw i’r llidus;Pobl Dduw a etifedda’r tir,Dinistrir y drygionus.

10-11. Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,A’i le fydd anghyfannedd,A’r gwylaidd yn meddiannu’r tirA’i ddal mewn gwir dangnefedd.

12-13. Cynllwynia’r drwg i daro’r da,Ac ysgyrnyga’i ddannedd;Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,Aflawen fydd ei ddiwedd.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 37