Hen Destament

Salmau 37:18-19-28-29 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

18-19. Fe wylia’r Arglwydd dros y da,Parha eu hetifeddiaeth;A phan fydd newyn yn y tirBydd ganddynt wir gynhaliaeth.

20. Ond fel coed tân mewn fflamau cochGelynion croch yr ArglwyddA dderfydd; cilia y rhai drwgBob un fel mwg yn ebrwydd.

21. Ni thâl yr un drygionus, ffôlYn ôl ddim a fenthyciodd;Ond am y cyfiawn, hwn a fyddYn rhoi yn rhydd o’i wirfodd.

22. Rhydd Duw ei etifeddiaeth haelI’r sawl sy’n cael ei fendith,Ond torrir ymaith y rhai casA brofodd flas ei felltith.

23-24. Cyfeiria’r Arglwydd gamau’r da,Fe’i gwylia ef yn ddyfal;Er iddo gwympo, cwyd yn rhwydd:Mae’r Arglwydd yn ei gynnal.

25. Yr holl flynyddoedd y bûm bywNi welais Dduw hyd ymaYn troi ei gefn ar unrhyw santNa pheri i’w blant gardota.

26-27. Hael a thrugarog ydyw’r da,A’i blant ef a fendithir.Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,A’th gartref a ddiogelir.

28-29. Oherwydd câr yr Arglwydd farn,Ni sarn ar ei ffyddloniaid;Ond torrir plant y drwg o’r tir,Difethir pechaduriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 37