Hen Destament

Salmau 34:9-11-18-22 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

9-11. Ei seintiau ef, ofnwch yr Arglwydd.Nid oes eisiau byth ar y rhaiA’i hofna. Y mae yr anffyddwyrYn dioddef o hyd dan eu bai,Ond nid yw y rhai sydd yn ceisioYr Arglwydd yn brin o ddim da.Dewch, blant, gwrandewch arnaf, a dysgafI chwi ofn y Duw a’ch boddha.

12-17. Oes rhywun ohonoch sy’n chwennychByw’n hir, gweld daioni a’i fwynhau?Ymgadw rhag traethu drygioni,Gwna dda, a chais hedd sy’n parhau.Mae’r Arglwydd yn gwarchod y cyfiawn,A’i glustiau’n agored i’w cri,Ond mae’n gwrthwynebu’r drygionus,I ddifa pob cof am eu bri.

18-22. Mae’n gwrando gwaedd pobl am gymorth,Yn gwared y rhai calon-friw.Daw llawer o adfyd i’r cyfiawn,Ond gŵyr fod yr Arglwydd yn driw:Fe geidw’i holl esgyrn yn gyfan,Ond cosbi’r rhai drwg â’i law gref.Gwareda yr Arglwydd ei weisionA phawb sy’n llochesu ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn Salmau 34